A A R
EnglishCymraeg
Hanes y Prosiect
Prosiect Cymru gyfan wedi ei ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw Gwyddoniaeth Ymarferol, yn gweithio mewn partneriaeth â cholegau, prifysgolion, a sefydliadau addysg uwch eraill Cymru a darparwyr allanol. Mae’n rhan o fenter Ymgeisio’n Ehangach Llywodraeth y Cynulliad. Prif nod y prosiect yw hybu, annog a chynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau sy’n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Mathemateg ac Iechyd y tu hwnt i’r cyfnod TGAU a hyd at addysg bellach ac addysg uwch. 

Mae prosiect Gwyddoniaeth Ymarferol yn ymateb yn gadarnhaol i Arolwg Sgiliau Dyfodol Cymru a pholisi diweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru, Polisi Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru (2006). Mae’r polisi yn amlygu bwlch difrifol a chynyddol o ran sgiliau yng Nghymru, ac mae’n cyfeirio at Ymgeisio’n Ehangach a gwaith rhyngweithiol Campws Cyntaf fel prosiectau sy’n cynnwys pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.

 

Mae angen cynyddu nifer y bobl sy’n astudio pynciau gwyddonol yn y cyfnod ôl-16. Mae hyn yn cynnwys parhau i’w hastudio mewn addysg uwch a hefyd gwella cyrhaeddiad academaidd mewn TGAU gwyddoniaeth. Mae un o ddiddordebau Ymgeisio’n Ehangach yn benodol yn golygu gweithio gyda disgyblion ac oedolion o grwpiau sy’n colli allan ar addysg uwch yn aml iawn.

 

Amcan y Prosiect hwn yw annog mwy o bobl i astudio pynciau gwyddonol, o Gyfnod Allweddol 4 hyd at addysg uwch. Mae hyn yn golygu annog disgyblion i astudio gwyddoniaeth y tu hwnt i gyfnod TGAU – i’r byd addysg uwch yn ogystal â llwybrau galwedigaethol addysg bellach.

 

Mae cydweithio rhwng sefydliadau addysg uwch Cymru yn rhan bwysig o brosiect Gwyddoniaeth Ymarferol, o ran sicrhau bod disgyblion ac oedolion yn gallu cael gafael ar wybodaeth gynhwysfawr am yr holl bynciau gwyddonol y gellir eu hastudio mewn addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru. Mae’r prosiect yn gobeithio bod o fewn cyrraedd i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4 yng Nghymru drwy ei wefan. Bydd y wefan yn casglu gwybodaeth gynhwysfawr am bynciau gwyddonol sy’n cael eu cynnig gan golegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch Cymru. Mae’n bwriadu darparu “gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol a diduedd i bobl ifanc ac oedolion, yn ôl buddiannau’r unigolyn ei hun.” (Polisi Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2006, tudalen 27).

 

Mae Gwyddoniaeth Ymarferol yn un o fentrau Ymgeisio’n Ehangach a bydd yn targedu’r pedwar maes targed sydd yn strategaeth Ymgeisio’n Ehangach, ond bydd ei brif bwyslais ar ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Cymru.

 

Targedau Ymgeisio’n Ehangach: Pobl o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf – Bydd y prosiect yn gweithio gydag ysgolion, colegau addysg bellach a grwpiau cymunedol sy’n cynnwys pobl o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf.

 

Ar gyfer pobl sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn gyfan gwbl neu yn rhannol – bydd digwyddiadau, gweithgareddau a thrafodaethau grwpiau cymunedol yn cael eu darparu yn ddwyieithog. Caiff gwybodaeth ei chasglu a bydd ar gael drwy flog ‘Gwyddoniaeth Ymarferol’, a fydd yn rhoi gwybodaeth am gyrsiau a phynciau a ddysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn sefydliadau addysg uwch Cymru.

 

Pobl ag anableddau – Bydd y prosiect yn datblygu ffordd o gynnwys pobl ag anableddau. Mae’r blog yn adnodd hygyrch iawn i bobl ag anableddau, er enghraifft disgyblion byddar.

 

Pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig – Bydd y prosiect yn targedu ysgolion a chanddynt nifer fawr o ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig yn arbennig. Bydd digwyddiadau cymunedol yn cynnwys darpariaeth mewn cymunedau a lleoliadau sy’n cynnwys lleiafrifoedd ethnig megis mosgiau a chanolfannau cymunedol.